Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Hefin Lloyd, Carmarthenshire Youth Support Service

Mae Hefin wedi bod yn gweithio yn y gwasanaeth cymorth ieuenctid ers dros 20 mlynedd a bu'n gweithio yn Dr MZ yng Nghaerfyrddin cyn hynny. Mae Hefin bellach yn rheoli'r tîm ôl-16, ac mae'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau arian grant a ddaw o Ewrop yn ogystal â ffynonellau domestig; atebolrwydd sy'n seiliedig ar ganlyniadau; perfformiad staff a goruchwylio staff; a phrosesau'n ymwneud â'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Fe hefyd yw'r Arweinydd Gwasanaethau ar gyfer nifer o feysydd gan gynnwys trais domestig a thrais yn erbyn menywod, y cyfryngau cymdeithasol a llety i bobl ifanc. Mae Hefin hefyd yn gyfrifol am arwain a threfnu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a chymorth i bobl ifanc a theuluoedd rhwng 16 a 25 oed ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae Hefin bob amser yn llais cryf o blaid pobl ifanc, gwaith ieuenctid a dulliau gwaith ieuenctid, ac mae wedi sefydlu nifer o brosiectau a rhaglenni sydd wedi bod o fudd i gannoedd o bobl ifanc. Er gwaethaf y ffaith ei fod yn gweithio mewn rôl rheoli, mae'n gwneud yn siŵr ei fod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion presennol sy'n effeithio ar bobl ifanc, ac yn mynd ati i wneud gwaith wyneb yn wyneb o hyd hefyd. Mae'n aelod hanfodol o'r tîm darparu addysg awyr agored fel hyfforddwr arweiniol ac mae wedi gweithio fel asesydd yr Adran Addysg, yn ogystal â threfnu cyfleoedd preswyl i bobl ifanc difreintiedig.

Mae Hefin hefyd wedi ymgymryd â nifer o rolau'n ymwneud â gwaith ieuenctid yn ogystal â'i rôl broffesiynol. Gwasanaethodd fel arholwr allanol ar gyfer cyrsiau gradd ac ôl-radd Prifysgol y Drindod Dewi Sant am gyfnod o dair blynedd. Mae'n Asesydd Marc Ansawdd brwd, ac mae bellach yn cynrychioli'r gwasanaeth yn yr is-grŵp Ei Werthfawrogi a'i Ddeall sy'n rhan o'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Un o brif gryfderau Hefin yw'r ffordd y mae'n meithrin cydberthnasau proffesiynol cryf a chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth, gan arwain yn effeithiol ar brosesau integreiddio gwasanaethau'n aml yn ogystal â chefnogi gwaith sy'n croesi ffiniau adrannol/sefydliadol er mwyn gwella canlyniadau i bobl ifanc.

Tynnodd y panel dyfarnu sylw at y ffaith bod Hefin wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth godi proffil gwaith ieuenctid gyda chydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol ac mewn sefydliadau eraill, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'n hyrwyddo ei staff ac mae'n frwdfrydig am ei broffesiwn a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i bobl ifanc, eu teuluoedd a'u cymunedau.