Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Conwy Youth Service

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn rhoi pwyslais mawr ar ddarpariaeth Gymraeg, gyda mwy na 60% o weithlu'r gwasanaeth ieuenctid yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae'r tîm yn ymfalchïo yn y ffaith bod yr holl wasanaethau ar gael yn ddwyieithog. Yn ystod 2020/21, bu'r tîm yn cynnig cyfle i bobl ifanc Conwy ennill cymhwyster fel rhan o'r prosiect 'Diwylliant Cymru: Traddodiadau ac arferion Cymru’. Cafodd y prosiect hwn ei gwblhau'n rhithwir dros gyfnod o bum wythnos, gyda'r bobl ifanc yn cwblhau llyfr gwaith ac yn cymryd rhan mewn sesiynau lle cawsant y cyfle i rannu syniadau a barn a dysgu mwy am Gymru a'r Gymraeg. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy hefyd yn darparu cymwysterau ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ a ‘Diwylliant Cymru’ er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg mewn modd cadarnhaol. Mae'r rhain wedi cael eu cynnig mewn ysgolion ledled y wlad.

Mae'r tîm wedi meithrin cydgysylltiadau gwych â theuluoedd a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig lle mae canran fawr o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, a lle mae'r gallu i gynnig gwasanaeth dwyieithog yn hollbwysig. Mewn ardaloedd lle mae canran lai o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, mae'r tîm yn hyrwyddo'r iaith mewn modd cadarnhaol er mwyn annog pobl ifanc i ddysgu rhagor am yr iaith ac am Gymru. Mae Prosiect Diwylliant a Threftadaeth Cymru, a arweiniodd at 12 o bobl ifanc yn ennill cymhwyster, yn enghraifft wych o'r gwaith hwn.

Dywedodd y panel dyfarnu fod Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi gweithio mewn modd arloesol, gwydn a dyfeisgar iawn yn ystod flwyddyn eithriadol o anodd. Roedd angen iddo weddnewid ei ddull o weithio wyneb yn wyneb, ond bu'r tîm yn parhau i gael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pobl ifanc, gan gynnig yr holl gymorth yn ddwyieithog gan roi i bobl ifanc y cyfle i ddefnyddio pob gwasanaeth yn eu dewis iaith.