Elizabeth Herbert: Boys’ Brigade
Cyd-enillydd
Mae Liz wedi bod yn gwirfoddoli gyda Brigâd y Bechgyn ers dros 20 mlynedd, gan arwain y gweithgareddau wythnosol, yn ogystal â mynd cam ymhellach yn ei rôl fel arweinydd ieuenctid gwirfoddol drwy gynnig cymorth bugeiliol i deuluoedd yr aelodau hefyd.
Mae'n gyfrifol am grŵp lleol o bobl ifanc ac wyth gwirfoddolwr, gan ddarparu amrywiaeth eang iawn o weithgareddau sy'n rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu, tyfu a darganfod mewn amgylchedd diogel, hwyl a gofalgar. Mae Liz, sy'n gweithio mewn ardal o amddifadedd uchel, yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod modd i bob aelod gymryd rhan. Mawr yw parch y gymuned ati, ac mae ganddi enw da am ddarparu lle anfarnol a diogel lle mae pobl ifanc yn gallu dweud eu dweud gan wybod bod rhywun yn gwrando ar eu pryderon.
Yn ystod 2020, bu Liz yn gyfrifol am gydgysylltu'r newid o'r gweithgareddau wyneb yn wyneb wythnosol arferol i gymysgedd o weithgareddau rhithwir a rhai a gynhelir gartref, gan annog rhai o'r arweinwyr iau i ddefnyddio eu sgiliau a'u doniau i ddatblygu rhaglen amgen a ellir ei darparu pan fyddai'r cyfyngiadau ar waith. Ymgymerodd â rôl fentora, gyda nifer o arweinwyr ifanc a ffynnodd yn sgil eu cyfrifoldebau newydd, gan ddarganfod eu sgiliau arwain eu hunain a'u meithrin, a chan rhannu eu doniau a'u brwdfrydedd.
Roedd llawer o bobl ifanc o blaid enwebu “Mrs H” ar gyfer y wobr hon, gydag un yn egluro bod llawer o blant o'r un oedran ag ef yn ei ardal yn cael eu hunain mewn sefyllfa anodd, ond oherwydd Liz, a'i hawydd i helpu pobl mewn angen, roedd swydd dda ganddo bellach. Gwnaeth yr effaith hirdymor sylweddol y mae ymroddiad Liz i Frigâd y Bechgyn wedi ei chael ar fywydau aelodau'r Frigâd, y gwirfoddolwyr a'u teuluoedd argraff fawr ar y panel dyfarnu.