Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Ceredigion Young Farmers’ Club (YFC)

Wrth i’r pandemig gydio ym mis Ebrill 2020, bu Cyngor Sir Ceredigion a Chlwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion weithio ar y cyd i ddatblygu rhwydwaith o gefnogaeth gymunedol i bobl agored i niwed a oedd, am amryw resymau, yn cael eu hystyried yn ‘anodd eu cyrraedd’.

Nodwyd cannoedd o bobl fregus, gan gynnwys llawer o bobl hŷn ynysig heb rwydwaith cymorth, gydag aelodau CFfI Ceredigion yn mynd ati i'w cefnogi, gan weithio ochr yn ochr â Chysylltwyr Cymunedol yr awdurdod lleol a gwasanaethau Cymorth Cynnar eraill. Bu'r cydweithrediad hwn, a oedd wedi'i danategu gan bobl ifanc yn cael eu grymuso i fentro a meddwl yn greadigol, ddarparu cymorth i bawb a ofynnodd am gymorth. Heb y fenter hon, byddai'r pandemig wedi effeithio'n andwyol ar nifer o bobl ifanc ac oedolion ifanc lleol, yn ogystal â nifer o bobl agored i niwed.

Dangosodd pobl ifanc o CFfI broffesiynoldeb, ac adeiladu ymddiriedaeth gyda nifer o bobl fregus a fydd yn para am oes - roedd yr effaith yn wych a gwnaethant gyfraniad enfawr i lesiant cymunedol.

Gwnaeth graddfa ac uchelgais eu prosiect partner argraff fawr ar y panel beirniadu, ynghyd â'r brwdfrydedd a'r ymroddiad a oedd yn amlwg o'r dystiolaeth a ddarparwyd. Teimlai'r panel fod cyflawniadau'r CFfI yn eithriadol o ystyried yr amgylchedd gwledig a'r boblogaeth anodd eu cyrraedd.