Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Carlie Torlop, YMCA Swansea

Mae Carlie Torlop yn Rheolwr Ieuenctid a Chymunedol yn YMCA Abertawe. Mae Carlie yn weithiwr ieuenctid cymwys, wedi cofrestru gyda EWC ac wedi bod yn ymarfer am 13 mlynedd.   Mae hi'n arwain ac yn rheoli'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid, gan weithio gyda, ac ochr yn ochr â, phobl ifanc, cydweithwyr, y Prif Swyddog Gweithredol, a phartneriaid i sicrhau y gall y sefydliad ddarparu cyfleoedd dysgu cynhwysol i bobl ifanc yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos. 

Mae rheoli prosiectau, adnoddau, staff a chyllidebau yn elfennau pwysig o'i rôl, ond dangosir ei gallu arwain orau trwy ei gallu i ysbrydoli pawb o'i chwmpas, wrth barhau i ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth i weithwyr ieuenctid gan hwyluso ystod amrywiol o brosiectau ar gyfer Pobl ifanc.

Carlie yw'r Swyddog Diogelu dynodedig ar gyfer y mudiad ac mae'n aelod o'r Bwrdd Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Rhanbarth y De a'r Gorllewin. Yn ogystal, mae Carlie yn ymddiriedolwr ar fwrdd CWVYS, ac mae'n gwasanaethu fel cynghorydd gwaith ieuenctid proffesiynol i Grwpiau Cyfranogi Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Roedd y dystiolaeth a roddwyd am Carlie gan weithwyr ieuenctid a phobl ifanc fel ei gilydd yn darparu tystiolaeth gref o'i gallu i ysbrydoli timau, hyrwyddo diwylliant o wella a darparu atebion creadigol arloesol.  Teimlai'r panel beirniadu fod Carlie yn arweinydd rhagorol mewn lleoliad gwaith ieuenctid sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl ifanc ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.