Ymateb Canolfan Cwmbrân i Bobl Ifanc (CCYP) i Argyfwng COVID-19
Enillydd
Roedd 2020/21 yn her enfawr i Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân. Gwelwyd cynnydd enfawr yn y galw am gefnogaeth a bu lles pobl ifanc, i nifer sydd eisoes mewn cyfnod tyngedfennol, ostwng ymhellach o ganlyniad i'r pandemig.
Roedd anghenion pobl ifanc yn cyrraedd lefel dyngedfennol - roedd pobl yn ofnus ac wedi drysu gan yr hyn oedd yn digwydd a chynhaliodd y tîm gwaith ieuenctid ymgynghoriadau brys helaeth gyda channoedd o bobl ifanc i nodi'r hyn yr oedd ei angen arnynt.
Nodwyd llawer o anghenion cymhleth (gan gynnwys tlodi bwyd/lles/diffyg eitemau hanfodol/ofn/dicter/pryder/diogelu/unigrwydd ac ati). Aethpwyd i'r afael â'r rhain i gyd gan ddefnyddio ymagwedd hynod bwrpasol ac effeithiol wedi'i deilwra a gafodd ei roi ar waith gyda phroffesiynoldeb ac ymroddiad gwych gan y tîm. Bu'r tîm sicrhau bod anghenion unigolion yn cael eu diwallu mewn modd a oedd yn briodol ac yn ddiogel i bob person ifanc.
Aeth oriau gwaith a rotas allan o'r ffenestr ac roedd hyblygrwydd, gwytnwch ac ymroddiad llwyr y tîm gwaith ieuenctid wrth wraidd llwyddiant yr ymateb.
Cymeradwyodd y panel beirniadu yr ymagweddau arloesol ac amrywiol a gymerwyd i ddiwallu anghenion ar lefel unigol, yn ogystal â'r ymrwymiad ac angerdd anhygoel a ddangoswyd gan y tîm. Mae maint yr adborth a ddarperir gan bobl ifanc a'u teuluoedd yn dyst i'r effaith enfawr a gafodd y tîm yn eu cymuned leol.