Neidio i'r prif gynnwy

Enillwyr

Spencer Major - Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot

Mae Spencer yn rhan o'r Tîm Gwirfoddoli Gwaith Ieuenctid ac yn cefnogi pobl ifanc yng Nghlwb Ieuenctid Blaengwynfi a Chlwb Ieuenctid y Cymer. Mae ei rôl yn cynnwys cyflawni a datblygu ystod eang o weithgareddau Dinasyddiaeth, Celf, Chwaraeon, Iechyd a'r Gymraeg mewn ffordd hwyliog a diddorol.

Mae'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud, gan ddarparu cyfleoedd adborth rheolaidd fel y gallant deimlo eu bod yn berchen ar y gwasanaethau sy'n cael eu derbyn. Yn ogystal â'u cynnwys yn y gwaith o gynllunio gweithgareddau, mae wedi sefydlu fforymau ieuenctid yn y ddau glwb ieuenctid i roi lle i bobl ifanc drafod materion sy'n effeithio arnynt.

Mae'n mwynhau uwchsgilio mewn celf a chrefft ac yna rhannu ei sgiliau newydd gyda'r bobl ifanc y mae'n gweithio gyda hwy, er enghraifft drwy ddarparu gweithdai graffiti hynod lwyddiannus.

Teimlai'r beirniaid fod Spencer yn wirfoddolwr y gall pobl ifanc uniaethu ag ef sy'n cyflawni gwaith ieuenctid ystyrlon ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i Wasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot.