Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Prosiect Cod QR – Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro

Mae Tîm Digartrefedd Ieuenctid Sir Benfro yn gweithio gyda phobl ifanc, darparwyr tai a gwasanaethau cymorth i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o nifer o faterion yn ymwneud â thai a ffactorau sy'n cyfrannu at fethiant tenantiaethau ieuenctid a digartrefedd.

Mae prosiect Cod y QR yn cynnwys pobl ifanc, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill, i gynhyrchu deunyddiau (fideos yn aml) y gellir cyrraedd atynt yn hawdd drwy ddyfeisiau clyfar (drwy godau QR); cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ychwanegol mewn ffordd glir, ddealladwy a hawdd ei deall. Mae'r prosiect hefyd yn ceisio mynd i’r afael â materion llythrennedd, cyfieithu 'jargon' a lleihau lefel y pryder a brofir pan fydd pobl ifanc yn derbyn gohebiaeth 'ffurfiol', gyda gwybodaeth yn cael ei darparu gan y bobl ifanc eu hunain. Hyd yma, mae'r codau QR hyn wedi'u rhoi ar nifer o ddeunyddiau gan gynnwys llythyrau ffurfiol a anfonwyd gan Adran Dai'r awdurdod lleol, cardiau gwybodaeth a graffeg gwybodaeth.

Nododd y beirniaid fod y gwaith digidol yn y prosiect hwn hefyd wedi rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ennill sgiliau trosglwyddadwy a fydd mor ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, yn ogystal â sgiliau bywyd a chael eu grymuso i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.