Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Project Unity - Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid (NYAS) Cymru

Mae Project Unity yn darparu cymorth i famau sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Dan arweiniad pobl ifanc, mae’r fenter wedi’i llunio i helpu unigolion i oresgyn rhwystrau rhag ymgysylltiad cadarnhaol a ffeindio’u ffordd drwy’r system. Mae’r cyfranogwyr yn dysgu am hawliau, cyllidebu, perthynas iach a chadw’n ddiogel er mwyn iddynt gael eu grymuso i wneud penderfyniadau doeth.

Mae’r prosiect yn gweithredu ar sail un i un a gwaith grŵp, ac mae wedi datblygu rhwydweithiau o gymheiriaid i leihau ynysigrwydd cymdeithasol, adeiladu cadernid emosiynol a darparu llwyfan ymgyrchu i sicrhau newid cadarnhaol, systematig. Hefyd cynhaliwyd eu cynhadledd gyntaf ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2019 gyda bron i 400 o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn bresennol.

Roedd y beirniaid o’r farn bod Project Unity yn gwneud gwaith ardderchog yn hyrwyddo hawliau mamau ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at arweiniad a chymorth, ac ar ben hynny bod ganddynt lais.