Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Podlediad CFfI - Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru

Lansiodd CFfI eu cyfres gyntaf erioed o bodlediadau, a oedd yn cynnwys amrywiol sgyrsiau gyda phobl o wahanol gefndiroedd a gyrfaoedd sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru.

Mae’r penodau dan arweiniad pobl ifanc ac yn amrywio o sgyrsiau anffurfiol i adroddiadau doniol am y dyddiau a fu a thrafodaethau am fywyd yn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell y wlad.

Maent yn ddwyieithog, gan roi cyfle i aelodau ddatblygu eu sgiliau Cymraeg wrth gyfweld siaradwyr gwadd am wahanol faterion yn Gymraeg. 

Mae’r aelodau hefyd wedi cael cyfle i ddatblygu sgiliau newydd, fel sut i gynnal cyfweliadau digidol yn effeithiol, yn ogystal â chodi eu hyder.

Teimlai’r beirniaid fod hwn yn brosiect diddorol a chreadigol, yn arbennig o ran y ffordd mae’n cefnogi pobl ifanc yng nghymunedau cefn gwlad Cymru i rannu eu profiadau gan ddefnyddio technoleg ddigidol.