Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Partneriaeth Prosiect Progression

Cafodd y Prosiect Progression ei gyflwyno gan bartneriaeth o dri sefydliad ieuenctid yn y sector gwirfoddol ledled De Cymru yn cydweithio, gan rannu eu profiadau, eu harbenigedd a'u sgiliau, er eu bod wedi'u lleoli mewn cymunedau gwahanol iawn: Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (Torfaen), Prosiect Ieuenctid Tanyard (Sir Benfro) a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (Abertawe). Roedd yn cefnogi'r bobl ifanc fwyaf ymylol a difreintiedig i gael addysg, hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth gan gynnwys hunangyflogaeth.

Daeth pobl ifanc a staff o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i hyfforddi gyda'i gilydd, cynllunio prosiectau cymunedol, profi diwrnodau gweithgarwch ar y cyd a chynhyrchu ffilm a rap. Ymysg y canlyniadau cadarnhaol roedd pobl ifanc yn magu hyder, ennill cymwysterau, dod yn fentoriaid cymheiriaid a sicrhau cyflogaeth.

Teimlai'r beirniaid fod hwn yn ddarn rhagorol o waith a oedd yn arddangos gweithio mewn partneriaeth ar ei orau.