Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Offeryn Iechyd Rhywiol Digidol - ProMo-Cymru

Yn 2019, ffurfiodd ProMo-Cymru bartneriaethau newydd gyda nifer o wasanaethau a sefydliadau i ymgymryd â darn o waith gwybodaeth ieuenctid cyffrous. Roeddent yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac fe ganfuwyd tystiolaeth nad oedd gwybodaeth iechyd rhywiol ar-lein y GIG ar gael mewn ffordd hwylus i bobl ifanc.

Gyda'i gilydd, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, datblygwyd offeryn iechyd rhywiol digidol newydd ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Roedd hyn yn llwyddiant mawr, gyda 100% o weithwyr proffesiynol a phobl ifanc a brofodd yr offeryn yn cytuno ei fod yn fwy effeithiol a defnyddiol na'r wybodaeth ddigidol bresennol am iechyd rhywiol.

Credai'r beirniaid fod hwn yn brosiect partneriaeth gwych a fydd yn galluogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus mewn agwedd bwysig ar eu bywydau.