Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Neges Heddwch ac Ewyllys Da - Urdd Gobaith Cymru

Ers 1922, ar 18 Mai bob blwyddyn, mae pobl ifanc Cymru yn anfon neges at bobl ifanc y byd.

Llynedd roedd y neges yn canolbwyntio ar lais pobl ifanc, ac fe fu’r Urdd yn gweithio’n llwyddiannus gyda 13 o bartneriaid ar draws y sectorau i ledaenu’r neges. O ganlyniad, cafodd ei rhannu mewn 44 o ieithoedd ac fe lawrlwythwyd 4,000 o bosteri, wrth i’r neges gyrraedd 35 o wledydd a 5.2 miliwn o unigolion ar draws y byd.

Y nod nesaf yw cyrraedd 15 miliwn o bobl mewn 50 o wledydd ar draws y byd.

Teimlai’r beirniaid bod y prosiect yn dangos gwaith partneriaeth ardderchog yn rhwydweithio ar draws y gwledydd i roi sylw i leisiau pobl ifanc.