Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Cofnodion Troseddol - Media Academy Cymru (MAC)

Roedd prosiect ‘Cofnodion Troseddol' MAC yn brosiect ffilm a fu’n gweithio gyda 45 o Blant a Phobl Ifanc â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol i addysgu llunwyr polisi am effeithiau niweidiol troseddoli plant a phobl ifanc.

Cynhyrchodd y prosiect 4 ffilm a gynlluniwyd gan blant a phobl ifanc, y rhan fwyaf ohonynt yn y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd, gan adrodd straeon plant a phobl ifanc a gafodd gofnod troseddol pan oeddent yn blant a'r effeithiau andwyol a gafodd hyn arnynt. Mae'r straeon hyn yn cefnogi ymgyrch genedlaethol MAC i atal troseddoli plant yn ddiangen.

Teimlai'r beirniaid fod hwn yn brosiect gwych sy'n hyrwyddo hawliau a diddordebau pobl ifanc drwy adrodd straeon digidol.