Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Bu grŵp o ddisgyblion blwyddyn 11 sydd â phrofiad o faterion iechyd meddwl yn gweithio’n greadigol gyda'u gweithiwr ieuenctid i sianelu emosiynau negyddol i fod yn brofiad cadarnhaol.

Datblygwyd cyfres o straeon byrion am fywydau pobl ifanc, yr heriau a wynebir ac awgrymiadau ar sut i oresgyn rhwystrau o'r fath, cyn sefydlu menter i droi'r straeon hyn yn llyfrau Cymraeg. Y nod yw rhoi cymorth i bobl ifanc eraill, gan eu bod yn sylweddoli bod prinder adnoddau cyfrwng Cymraeg i helpu pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r gyfres o lyfrau wedi'u henwi'n 'Cyhoeddiadau Lemonêd' yn dilyn y dywediad 'When life gives you lemons, make lemonade’ ac mae'r prosiect wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt, gyda’r llyfrau yn cael eu dosbarthu i ysgolion cynradd ar draws Rhondda Cynon Taf.

Gwnaed argraff fawr ar y beirniaid gan y ffordd yr oedd y bobl ifanc yn mynd i'r afael â bwlch penodol yn y farchnad ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg, ac fe nodwyd fod gan y prosiect ddigon o botensial i symud ymlaen ymhellach!