Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Declan Greenshields – Evolve, Gwasanaethau Pobl Ifanc Dinas a Sir Abertawe

Mae Declan wedi bod yn gwirfoddoli dros y deng mlynedd ddiwethaf, cyn cymhwyso fel gweithiwr ieuenctid a thalu'n breifat i gwblhau llawer o gyrsiau hyfforddi er budd ei ddatblygiad proffesiynol.

Mae Declan yn credu'n gryf mewn defnyddio popeth y mae wedi'i ddysgu i helpu pobl ifanc i gyflawni eu nodau, ynghyd â'u cefnogi i oresgyn anawsterau a heriau bob dydd. Mae'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli iddynt yn y lleoliad clybiau ieuenctid fel y gallant ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer eu datblygiad eu hunain.

Canmolodd y beirniaid Declan am weithio mor galed i hyfforddi fel gweithiwr ieuenctid a chyflawni ei gymwysterau, ac roeddent yn hynod o falch ei fod bellach yn defnyddio ei brofiad i ddatblygu sgiliau pobl ifanc.