Neidio i'r prif gynnwy

Finalist

Cynllun Cymraeg Bob Dydd - Urdd Gobaith Cymru

Mae’r cynllun Cymraeg Bob Dydd yn cynnal cyrsiau a gweithdai i bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg i ehangu eu defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl ifanc 14 i 18 oed i gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n dewis astudio’r Gymraeg ar gyfer TGAU a Safon Uwch. Mae’r cynllun hefyd yn hyrwyddo diwylliant Cymru ac yn codi hyder pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol.

Mae’n cynnig gweithdai i ysbrydoli pobl ifanc gyda phobl fel y DJ Huw Stephens, cyrsiau preswyl i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned, clybiau amser cinio, mynediad at gynhadledd genedlaethol a sesiynau pontio rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

Roedd y beirniaid yn gweld y Cynllun Cymraeg Bob Dydd fel prosiect effeithiol a phoblogaidd gydag amrywiol ddulliau i ennyn diddordeb ac addysgu pobl ifanc.