Clybiau Ffermwyr Ifanc Ynys Môn
Enillydd
Gwnaed gwaith gwych gan yr aelodau yn trefnu Eisteddfod Môn lwyddiannus tu hwnt, ar fyr rybudd.
Roeddent yn greadigol tu hwnt, gan gyflwyno categorïau newydd o gystadlaethau, fel dawns a cherddoriaeth, er mwyn apelio i grwpiau oedran iau. Trefnwyd digwyddiadau codi arian a oedd yn denu gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys noson bingo, cwis am Gymru a’r Gymraeg, a gig gydag un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, Gwilym, i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a rhoi cyfle i bobl ifanc fynd i gig cyfrwng Cymraeg.
Cysylltwyd â chwmnïau i gael noddwyr a gwobrau, trefnwyd lleoliad a lluniaeth i’r cannoedd a fyddai’n bresennol, dewiswyd beirniaid ac fe hyrwyddwyd yr Eisteddfod yn Gymraeg ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd roeddent yn gyfrifol am y cofnodion ariannol, gan lwyddo i wneud digon o elw i’w roi naill ochr ar gyfer yr Eisteddfod nesaf.
Dywedodd y beirniaid ei bod yn ardderchog gweld Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg ac yn cynnal y Gymraeg a’i hybu mewn ffyrdd newydd a gwahanol.