Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Alexandra McKenzie – Materion Gwirfoddoli

Mae Alexandra yn gwirfoddoli gyda rhaglen SAFE Materion Gwirfoddoli; rhaglen a gynlluniwyd i ddarparu gweithdai ymwybyddiaeth diogelwch personol ar gyfer y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Fel addysgwr cymheiriaid, mae Alexandra wedi cynnal gweithdai am faterion fel cydberthnasau iach, iechyd rhywiol ac ymwybyddiaeth LGBTQ+ mewn lleoliadau gwaith ieuenctid ledled Gwent i dros 200 o bobl ifanc ag ADY.

Fel menyw ifanc ag ADY ei hun, mae'n teimlo'n hynod gryf am rymuso pobl ifanc ag ADY drwy addysg am ryw fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus a diogelu eu hunain.

Panel o bobl ifanc oedd y beirniaid ar gyfer y categori hwn. Gwnaed argraff fawr arnynt gan y ffordd y bu Alexandra yn gweithio'n ddiflino ar faterion sy'n arbennig o berthnasol i bobl ifanc heddiw.