Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Ysbrydoli! – Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion

Mae prosiect Ysbrydoli! yn brosiect gwella sgiliau sy’n para 12 wythnos ac sydd wedi'i anelu at bobl ifanc 16-25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). 

Mae'r prosiect yn cynnig gweithgareddau gwaith ieuenctid wythnosol a chymorth proffesiynol i helpu pobl ifanc i gyflawni’r hyn maen nhw’n gobeithio ei gyflawni yn y dyfodol. Yr hyn sy’n hollbwysig yw ei fod yn galluogi pobl ifanc o ardaloedd gwledig iawn i feithrin cyfeillgarwch cefnogol gydag eraill mewn sefyllfa debyg. 

Yn ystod eu hamser ar y cwrs, mae’r cyfranogwyr yn arwain eu prosiect cymunedol eu hunain sy'n annog ymgysylltu â'r gymuned ac yn galluogi pobl ifanc i feithrin cysylltiadau â sefydliadau a chyflogwyr lleol a chymryd perchnogaeth o gyllideb. 

Mae'r prosiect yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous i'r bobl ifanc, gan gynnwys y cyfle i gymryd rhan mewn mordaith am ddeuddydd.

Roedd y beirniaid yn teimlo bod prosiect Ysbrydoli! yn cynrychioli dull arloesol o ymgysylltu â phobl ifanc mewn cyd-destun gwledig ac yn hyrwyddo integreiddio cymunedol trwy annog pobl ifanc i arwain eu prosiect cymunedol eu hunain. 

Fideo enwebeion