Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Wendy Jefferson – Uwch Ymarferwr Gwaith Ieuenctid – Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych

Mae Wendy wedi bod yn weithiwr ieuenctid proffesiynol ers tua 11 mlynedd ac mae bob amser wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol yn ei hardal leol, Prestatyn a Llanelwy. Fodd bynnag, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Wendy wedi gweithio'n ddiflino i liniaru effaith y toriadau ariannol ar ddarpariaeth ieuenctid leol drwy eirioli ar ran pobl ifanc ac adeiladu partneriaethau newydd.

Mae gwaith Wendy gydag ysgolion yn benodol wedi creu dadl o blaid mwy o fuddsoddiad mewn gwaith ieuenctid gan y sector addysg. 
  
Wendy yw’r person i fynd ati er mwyn creu a chyflwyno prosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau i ennyn diddordeb pobl ifanc a hyrwyddo integreiddio cymunedol. 
 
Mae'r beirniaid o'r farn bod Wendy yn gaffaeliad mawr i Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych. Mae hi’n creu partneriaethau newydd a denu cyllid ychwanegol sylweddol i ddatblygu prosiectau newydd sy'n cynnwys y gymuned leol ac sy'n amlygu pobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol.         

Fideo enwebeion