Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Tom yn fyfyriwr 18 oed sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion am dair blynedd, gan neilltuo dros 10 awr yr wythnos i wasanaethau gwaith ieuenctid gyda’r nos, yn bennaf yng Nghlwb Ieuenctid Aberaeron.

Mae Tom wedi datblygu ystod o weithgareddau cyffrous ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal ac mae’n darparu cymorth mentora a gwaith eiriolaeth ar lefel uwch yn y byd gwleidyddol lleol. Mae hefyd wedi datblygu nifer o brosiectau cymunedol gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o faterion yn yr ardal fel ‘Aberaeron yn Erbyn Plastig’ a menter Min y Môr sy’n hyrwyddo gwaith rhwng y cenedlaethau. 

Mae Tom yn teimlo’n angerddol dros godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl. Mae wedi darparu gweithdai ymwybyddiaeth mewn ysgolion uwchradd a chlybiau Ieuenctid ledled y sir, gan annog ei gyfoedion i siarad am eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol eu hunain. 

Roedd y beirniaid yn canmol Tom am ei waith called a’i ymrwymiad, ac am fod yn fodel rôl rhagorol oedd yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc.