Taith Gyfnewid Ieuenctid 2018 – Cyngor Bro Morgannwg
Teilyngwr
Daeth y prosiect hwn â phobl ifanc o bob cwr o Ewrop at ei gilydd gan gynnwys Gwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen ar gyfer wythnos o gyfnewid diwylliannau.
Roedd y bobl ifanc o Gymru yn gallu cyflwyno eu cyfoedion Ewropeaidd i ddiwylliant a threftadaeth Cymru trwy raglen o weithgareddau ac ymweliadau dan arweiniad pobl ifanc. Cynhaliwyd cyfres o weithdai i ennyn diddordeb y bobl ifanc mewn creu cerddoriaeth, dawns a chelf oedd wedi'u hysbrydoli gan y gwahanol ddiwylliannau.
Roedd y rhai a oedd yn rhan o’r prosiect hefyd yn dysgu mwy am fyw gyda phobl o wahanol gefndiroedd a bod yn atebol am eu gweithredoedd.
Roedd y beirniaid yn teimlo bod y prosiect yn cynnig cyfres o gyfleoedd cyffrous i bobl ifanc ail-ymgysylltu â thraddodiadau cyfoethog diwylliant Cymru.