Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

#OurSpace #Lleni  - Plant y Cymoedd, Clwb Ieuenctid Rhydyfelin a Sparc

Pan oedd Clwb Ieuenctid Rhydyfelin yng Nghanolfan y Llan yn cael ei gau oherwydd toriadau cyllid, cafodd y bobl sy’n gysylltiedig â’r clwb eu hysgogi i fod yn greadigol a chodi ymwybyddiaeth o'r angen am leoedd i bobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU. Gwnaeth hyn nid yn unig arwain at ymweliad â'r Tate Modern yn Llundain i adrodd eu hanes, ond hefyd at ddechrau ymgyrch ddigidol i godi ymwybyddiaeth o'u clwb. O ganlyniad i'r gwaith hwn, cafodd y clwb ei ailsefydlu am un noson yr wythnos.

Roedd y bobl ifanc a oedd yn rhan o'r prosiect i gyd yn lleol i'r clwb; roedd rhai wedi wynebu cael eu gwahardd o'r ysgol, yn dioddef problemau iechyd meddwl ac wedi cael eu hynysu’n gymdeithasol. Roedd y rheini a oedd yn ymwneud â'r prosiect wedi gwella eu gallu i weithio gydag eraill, a'u hyder i roi cynnig ar bethau newydd a rhannu eu syniadau. Roeddent hefyd wedi datblygu sgiliau ymarferol yn ymwneud â ffilmio, cyfweld a pherfformio. 

Roedd y beirniaid o'r farn bod hyn yn enghraifft wych o brosiect dan arweiniad pobl ifanc a oedd wedi defnyddio sgiliau yn y cyfryngau digidol i gynnal ymgyrch lwyddiannus yn erbyn cau clwb ieuenctid lleol.

Fideo enwebeion