Margaret Jervis
Enillydd
Gwobr Cyfraniad Neilltuol i Waith Ieuenctid
2019 yw pen-blwydd Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn 25 oed. I nodi'r achlysur hwn, rydym wedi penderfynu anrhydeddu tri arweinydd disglair sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru drwy wobr 'Cyfraniad Neilltuol i Waith Ieuenctid' a gaiff ei dyfarnu eleni yn unig.
Ni fyddem wedi cyrraedd lle rydyn ni heddiw heb ymroddiad, gwaith caled, brwdfrydedd a phenderfyniad y tri yma sy'n dal i fod mor frwd dros waith ieuenctid nawr ag y buont erioed.