Lowri Evans
Teilyngwr
Mae Lowri yn weithiwr ieuenctid ymroddedig a brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc. Mae hyn i’w weld yn yr egni a’r gwaith trefnu manwl sy’n mynd i mewn i’w diwrnod gwaith bob dydd yn ddi-ffael.
Mae Lowri'n berson ifanc ei hun ond fel Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid Ceredigion, mae hi eisoes wedi datblygu llawer o fentrau newydd sydd wedi rhoi egni newydd i’r ddarpariaeth gwasanaeth ieuenctid yn y sir.
Mae ei chanllaw ar sut i sefydlu clwb ieuenctid wedi annog llawer o grwpiau cymunedol i sefydlu darpariaeth newydd ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae Lowri wedi ailagor Clwb Ieuenctid Tal-y-bont yn ei phentref ei hun ar ôl iddo fod ar gau am dros ddeng mlynedd. Mae hi’n gwirfoddoli i staffio’r clwb bob wythnos.
Sylwadau panel beirniaid y bobl ifanc: Roedd ymroddiad Lowri yn destun ysbrydoliaeth i'r beirniaid – yn enwedig ei pharodrwydd i fynd y tu hwnt i'w swydd bob dydd a hefyd i wirfoddoli yn ei hamser hamdden yng Nghlwb Ieuenctid Tal-y-Bont - clwb a sefydlodd mewn ymateb i angen lleol.