Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Helen Elizabeth Ward-Hughes

Mae Liz wedi dangos ymrwymiad oes i gefnogi gwaith ieuenctid ym Mhrestatyn ac mae wedi bod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ers 49 o flynyddoedd. Er ei bod bellach wedi ymddeol yn swyddogol, mae'n parhau i ymgysylltu â phobl ifanc a'r gymuned drwy barhau i gymryd rhan fel gwirfoddolwr. Mae hyn yn cynnwys arwain grŵp amgylcheddol yn ardal Prestatyn sy'n gweithio gydag ysgolion, grwpiau ieuenctid a'r gymuned leol. 

Drwy gydol ei gyrfa, mae Liz wedi bod yn eiriolwr cryf dros waith ieuenctid sy'n cefnogi'r hawl i bobl ifanc gael eu gofod eu hunain a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain o ran pa weithgareddau y dylid eu cynnal. Mae hi wedi helpu pobl ifanc dirifedi pan roedden nhw’n wynebu heriau personol anodd.

Mae Liz yn eiriolwr cryf dros y rhai nad oes ganddynt eu llais eu hunain, ac mae ganddi "bersonoliaeth bwerus" i sefyll o blaid pobl ifanc. Dywedodd ei chydweithiwr, "Mae hi'n un o'r cydweithwyr mwyaf caredig a hael imi erioed gael y fraint o weithio gyda hi” 

Sylwadau panel beirniaid y bobl ifanc: Roedd y beirniaid yn llawn edmygedd o'r ffaith bod Liz yn parhau'n ymrwymedig i waith ieuenctid ar ôl pum degawd. Mae hi wedi brwydro'n galed i gadw gwasanaethau ar agor i bobl ifanc. Mae ei brwdfrydedd a'i hymroddiad dros bobl ifanc Prestatyn am gyfnod mor hir yn anhygoel!  

Fideo enwebeion