Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Cafodd y prosiect hwn ei greu oherwydd bod pobl ifanc a'u teuluoedd eisiau deall beth fydd yn digwydd iddynt pan fyddant yn mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. 

Cafodd ffilm sy’n esbonio biwro ei chreu gan 13 o bobl ifanc dros gyfnod o 12 mis. Roedd gan bob un o'r bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan brofiad uniongyrchol o'r system cyfiawnder troseddol. Roedden nhw’n gallu troi'r profiad negyddol hwn yn un cadarnhaol trwy greu adnodd i helpu eu cyfoedion. Bydd y ffilm yn cael ei dosbarthu i bob un o'r 22 awdurdod lleol ac mae eisoes wedi bod yn adnodd defnyddiol.  

Mae'r prosiect wedi helpu i feithrin hyder pobl ifanc yn ogystal â chynyddu eu sgiliau cyfathrebu wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys y rheiny mewn swyddi o awdurdod.  

Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect yn dangos rhagoriaeth o ran defnyddio cyfryngau digidol i greu cyfleoedd ymgysylltu i garfan o bobl ifanc sy'n draddodiadol yn anodd eu cynnwys.    

Fideo enwebeion