Cyngor Ieuenctid Sir Gâr - Cyngor Sir Gâr
Teilyngwr
Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gâr (CYC) yn rhoi cyfle i bobl ifanc yn y sir fod yn rhan o'r gwaith o helpu i lunio'r gwasanaethau sy'n effeithio arnynt.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd CYC ganmoliaeth uchel am ei waith integredig gyda phartneriaid sydd wedi arwain at waith rhwng cenedlaethau a mentrau diogelwch cymunedol.
Mae'r bobl ifanc sy'n ymwneud â'r cyngor wedi datblygu sgiliau ardderchog wrth ymgyrchu a lobïo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys ymgyrch lwyddiannus i wrthdroi penderfyniad y Cyngor Sir i dorri cludiant i'r ysgol.
Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect yn dangos gwaith partneriaeth arloesol i oresgyn rhwystrau a dylanwadu ar y rheiny sy'n gwneud penderfyniadau ledled y sir. Cafodd hyn effaith sylweddol ar fywydau pobl ifanc.