Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Y Clwb Gofalwyr Ifanc - Cyngor Caerdydd

Sefydlwyd y Clwb Gofalwyr Ifanc i roi lle diogel i ofalwyr ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd, lle gallant ymlacio a bod yn nhw eu hunain gyda phobl sy'n deall eu profiadau.   

Yn ystod eu hamser yn y clwb, mae pobl ifanc yn dysgu ystod o sgiliau newydd i'w helpu gyda'u rolau gofalu ond maen nhw hefyd yn cael cyfle i gymdeithasu a chael hwyl. Mae'r clwb yn darparu lle tawel oddi cartref i ganolbwyntio ar waith ysgol a datblygiad personol. 

Mae pobl ifanc o'r prosiect hwn hefyd wedi mynd allan i glybiau eraill er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu gofalwyr ifanc. 

Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect hwn wedi darparu gwasanaeth eithriadol i ofalwyr ifanc sydd wedi ymddieithrio o ddarpariaeth prif ffrwd. 

Fideo enwebeion

Mae arnom angen eich caniatâd i lwytho fideos YouTube

Gallai’r fideo yma ddefnyddio cwcis neu dechnolegau eraill nad yw eich gosodiadau LLYW.CYMRU yn gweddu iddynt.

Efallai yr hoffech ddarllen polisi preifatrwydd Google cyn derbyn.

Dewiswch 'derbyn a pharhau' i lwytho’r fideo yma.