Amber Treharne
Teilyngwr
Caiff Amber ei disgrifio fel person ifanc eithriadol sy'n ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn gweithio'n galed ym mhopeth a wna.
Mae ganddi frwdfrydedd aruthrol dros sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau ac mae Amber yn gwirfoddoli i Gyngor Ieuenctid Sir Gâr er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn gydradd â lleisiau oedolion. Mae hi’n helpu i greu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn trafodaethau sy'n effeithio ar eu bywydau er mwyn sicrhau newid cadarnhaol.
Mae hi wedi arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o dlodi mislif gyda gwleidyddion lleol, ac mae hi bellach wedi derbyn cyllid i brynu bocsys a fydd yn mynd i holl weithwyr ieuenctid, clybiau ieuenctid a phrosiectau ieuenctid yn yr ardal. Bydd hyn yn helpu merched na fyddent fel arall wedi mynychu’r ysgol yn ystod eu mislif i barhau i ymgysylltu a dysgu.
Sylwadau panel beirniaid y bobl ifanc: Mae Amber yn gweithio’n galed ac yn frwdfrydig ynghylch dod o hyd i atebion i faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc yn ei chymuned. Cymeradwyodd y beirniaid yn benodol ei gwaith yn codi ymwybyddiaeth o dlodi mislif, yn ogystal â chryfder ei hymgyrch sydd wedi cael effaith fawr yn lleol.