Alexandra Atkins – prosiect gofalwyr sy'n oedolion ifanc – Canolfan Gofalwyr Abertawe
Enillydd
Mae Alex wedi dod â'i phrofiadau ei hun a'i hangerdd dros waith ieuenctid ynghyd i sefydlu gwasanaeth cefnogi newydd i oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn Abertawe.
Mae'r gwasanaeth wedi tyfu o dan ei harweiniad er mwyn bod o fudd i dros 120 o oedolion ifanc sy'n ofalwyr. Mae Alex wedi gweithio'n ddiflino i adnabod yr heriau niferus sy'n wynebu'r grŵp oedran hwn o ofalwyr ac i fynd i’r afael â’r heriau hynny. Mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cymorth mewn profedigaeth, mynediad at gwnsela, addysg a hyfforddiant, yn ogystal â seibiant, clybiau ieuenctid a theithiau.
Mae'r bobl ifanc y mae Alex wedi'u cefnogi wedi elwa'n fawr o'i gwaith. Maen nhw wedi siarad am sut mae hi wedi eu helpu i gwrdd â phobl newydd ac wedi mynd tu hwnt i beth maen nhw’n arfer ei wneud a ble maen nhw’n teimlo’n gyfforddus. Mae cymorth proffesiynol a chyfeillgar Alex wedi'u helpu i sicrhau bod eraill yn clywed eu llais a'u galluogi i edrych i'r dyfodol, nid canolbwyntio ar y gorffennol.
Roedd y beirniaid yn teimlo bod Alexandra wedi dangos arweiniad ac ymrwymiad wrth ddatblygu gwasanaeth newydd ar gyfer oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ei chymdogaeth. Roedd ei gwaith wedi cyffwrdd â llawer o fywydau.