Activ8 – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Enillydd
Mae Activ8 yn brosiect sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc i bobl ifanc. Mae’n grymuso pobl ifanc 18-24 oed i ddatblygu sgiliau, hyder a gwybodaeth i'w helpu i symud ymlaen i wirfoddoli, addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Mae'r prosiect yn hyfforddi pobl ifanc sydd wedi goresgyn rhwystrau personol i ddod yn Hyrwyddwyr Activ8. Caiff yr hyrwyddwyr eu paru â phobl ifanc i ddarparu ffynhonnell gredadwy o gymorth i rymuso cyfranogwyr i helpu eu hunain.
Mae Active8 yn cynorthwyo pobl ifanc i fod yn glir ynghylch yr hyn maen nhw am ei gyflawni, ac yn hyderus i fynegi pa gymorth y gallent fod ei angen i'w helpu i wneud hynny. Mae dros 75% ohonynt yn symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Roedd y beirniaid yn teimlo bod y prosiect yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy fentora rhwng cyfoedion.