Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Tony Humphries – YMCA Abertawe

Mae Tony’n gwirfoddoli yn YMCA Abertawe am 10 awr yr wythnos yn y grŵp ieuenctid LHDC+. Mae’r grŵp ieuenctid yn cynnig lle diogel i bobl ifanc gael bod yn nhw eu hunain a mynegi eu hunaniaeth mewn amgylchedd sy’n eu derbyn.

Dechreuodd fynychu YMCA Abertawe fel person ifanc a dangosodd arwyddion cynnar o fod yn arweinydd grŵp da. Mae wedi ymgymryd â hyfforddiant eang i ehangu ei sgiliau gan gynnwys Diogelu, Iaith Arwyddo a dyfarniad Lefel 2 mewn Gwaith Ieuenctid. 

Mae Tony wedi cyflwyno gweithdai ar amrywiol bynciau ynghylch materion sy’n effeithio ar bobl ifanc ac mae ei sesiynau bob amser yn ennyn diddordeb ac yn hwyliog yn ogystal â bod yn addysgol ac wedi’u cynllunio’n dda.

Roedd y beirniaid yn teimlo bod Tony yn wirfoddolwr ymrwymedig ac ymroddedig, ac mae’n enghraifft ragorol o’r effaith y gellir ei chael ar bobl ifanc.