Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Rachel Wright – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae Rachel wedi gweithio i Gyngor Caerffili ers 6 blynedd ac maen nhw’n ei disgrifio fel un o’r gweithwyr ieuenctid mwyaf dygn ac ymroddedig mae ei rheolwr wedi gweithio gyda hi erioed.

Mae Rachel yn gweithio ar brosiect sy’n ymwneud â phobl ifanc anodd eu cyrraedd sy’n cyflawni gweithgareddau troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n gwneud y gwaith hwn drwy waith digyswllt neu allgymorth yn ogystal â gwaith ymgysylltu â theuluoedd a gwaith grŵp.

Eleni, ynghyd â’i gwaith arall, bu Rachel yn gwneud gwaith dwys gyda 53 o bobl ifanc i’w helpu i ddeall yn well beth yw’r gyfraith a sut i beidio â mynd i drwbl, a chafwyd lefelau aildroseddu isel iawn ers hynny. Mae wedi derbyn adborth cadarnhaol gan yr heddlu, athrawon, rhieni a gweithwyr cymdeithasol am effaith ei gwaith ar fywydau’r bobl ifanc mae hi’n gweithio gyda nhw. Mae hi’n helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cael pobl ifanc i gyfrannu i’w cymuned mewn ffordd gadarnhaol