Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Patagonia - Urdd Gobaith Cymru

Mae’r prosiect hwn yn cysylltu Cymru a’r Ariannin, ac yn benodol, Patagonia, a’r gymuned Gymraeg ei hiaith yno. Mae’r Urdd yn cynnig llefydd i 25 o bobl ifanc fynd ar y daith fythgofiadwy hon gan weithredu fel llysgenhadon i Gymru wrth iddyn nhw hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant ymhlith cymunedau Patagonia.

Fel rhan o’r daith, mae’r bobl ifanc yn cyflwyno sgyrsiau, yn cynnal gweithdai ac yn rhoi cyngherddau. Mae’r prosiect yn gyfle i’r bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd drwy wirfoddoli ym mhen draw byd.

Roedd y beirniaid yn teimlo bod y prosiect hwn yn daith sy’n newid bywydau pobl ifanc, ac yn gyfle gwych i ddysgu am dreftadaeth a diwylliant Patagonia.