Neidio i'r prif gynnwy

Winner

Ymyrraeth Gynnar ac Atal - Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Caiff y prosiect Mentoriaid Ieuenctid Ymyrraeth Gynnar ac Atal ei gyflenwi gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ym mhob un o’r 22 ysgol uwchradd a’r cymunedau daearyddol cyfagos. Nod a diben y prosiect yw lleihau’r nifer o bobl ifanc sydd eisoes, neu y pennir eu bod mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a’u helpu i ail-ymgysylltu.

Mae’r prosiect yn tynnu ar gyllid o amrywiol botiau i gynorthwyo gweithwyr ar draws ardal Caerdydd, yn arbennig tîm o Fentoriaid Ieuenctid. Rôl y Mentoriaid yw nodi’r hyn a allai fod yn rhwystrau i ymgysylltu, datblygu cynllun gweithredu i fodloni anghenion y person ifanc, yna ei gefnogi i allu cwblhau’r camau gweithredu.  Gall y Mentoriaid Ieuenctid sicrhau bod pobl ifanc yn cael perthynas gadarnhaol, yr amser a’r sylw penodol maen nhw’n eu haeddu.

Roedd y beirniaid yn teimlo bod y prosiect hwn yn dangos canlyniadau cadarnhaol drwy ddull Gweithiwr Ieuenctid i ymgysylltu â phobl ifanc NEET. O’r flwyddyn galendr mae’r prosiect wedi cefnogi 911 o unigolion yn llwyddiannus.