Whitbread Group PLC
Rownd derfynol
![Whitbread Group PLC](/sites/default/files/campaign-case-studies/2024-02/19.Whitbread%20PLC%20main.jpg)
Mae Whitbread Group PLC, busnes lletygarwch blaenllaw sydd â dros 800 o westyau, 400 a mwy o fwytai a dros 36,000 o weithwyr, yn elwa oherwydd ei ymrwymiad cryf i brentisiaethau.
Gwelodd y busnes fod ei gyfradd cadw staff 10% yn uwch yn achos prentisiaid, sy’n cyfateb i £5 miliwn mewn costau is, cynnydd mewn gwerthiant a gwell profiad i westeion.
Cwmni Lifetime Training sy'n cyflenwi prentisiaethau o Lefelau 2 i 5, mewn partneriaeth â Chwmni Hyfforddiant Cambrian yng Nghymru, ar gyfer staff sy’n amrywio o gogyddion, pobl cadw tŷ a derbynyddion i reolwyr ac arweinwyr timau a phrosiectau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae dros 270 o weithwyr wedi cwblhau prentisiaeth a dros 2,000 yn gweithio ar brentisiaeth ledled y DU. Mae Hyrwyddwyr Prentisiaethau'n cefnogi dysgwyr trwy'r busnes cyfan.