Sioned Roberts
Rownd derfynol
Mae Sioned Roberts, cydlynydd HWB Sgiliau Hanfodol Urdd Gobaith Cymru, yn ymarferydd dysgu seiliedig ar waith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant dysgwyr a chydweithwyr. Mae Sioned, 29, o Gaerdydd, yn credu’n angerddol mewn rhoi llais i bob dysgwr ac y dylai pob dysgwr sy’n siarad Cymraeg gael cyfle cyfartal i astudio yn ei iaith ei hunan neu’n ddwyieithog.
Hi a chydweithiwr sy'n arwain y gwaith o gynllunio, creu a chyflenwi rhaglenni’r Urdd ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru – cyfathrebu, cymhwyso rhif, a llythrennedd digidol, o Lefel Mynediad i Lefel 3 – trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. A hithau'n gyn-athrawes uwchradd, mae’n creu adnoddau addysgu wedi’u teilwra ar gyfer cydweithwyr a dysgwyr a hi sy'n gyfrifol am bartneriaethau'r HWB gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant.