Megan Christie
Rownd derfynol
Mae gyrfa Megan Christie, sy'n llysgennad prentisiaethau peirianneg, yn codi i'r entrychion gyda GE Aerospace Wales, Nantgarw lle mae’n aelod o dîm sy’n atgyweirio, cynnal a chadw a thrin injans awyrennau masnachol.
Enillodd Megan, 21, sy'n byw yn Georgetown, Tredegar, wobr Ysbrydoli Sgiliau Cymru a medal arian i dîm yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK a Gwobr Brentisiaeth yng Ngholeg y Cymoedd yn 2023. Cafodd ragoriaeth ym mhob un o'i 40 aseiniad yn ystod ei Phrentisiaeth mewn Peirianneg Awyrofod yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’n mentora prentisiaid newydd yn GE Aerospace Wales.
Mae Megan bellach yn astudio am Radd mewn Peirianneg gyda Gradd Meistr Integredig mewn Peirianneg Dylunio (MEng) trwy’r Brifysgol Agored. Bydd hynny'n cymryd naw mlynedd ac yn arwain at ei nod o fod yn Beiriannydd Siartredig.