Ellen Somers
Rownd derfynol
Ar ôl gwneud Gradd mewn Troseddeg, penderfynodd Ellen Somers beidio â dilyn gyrfa yn yr heddlu a dewisodd lwybr newydd sydd wedi trawsnewid bywydau trwy gynnig ail gyfle.
Aeth Ellen, 28, o Gasnewydd, yn ôl i fyd addysg, gan wneud Prentisiaeth Uwch dwy flynedd gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar ôl sylweddoli bod ei hangerdd dros helpu eraill yn fwy addas ym maes Adnoddau Dynol. Yn ogystal â chwblhau cymhwyster Rheoli Adnoddau Dynol, Lefel 5, gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) trwy'r darparwr hyfforddiant ALS, mae Ellen wedi creu llwybr ar gyfer cyn-droseddwyr a phobl sydd wedi'u cael eu hunain yn y system gyfiawnder heb unrhyw ragolygon am waith yn y dyfodol.
Trwy helpu i ddiweddaru polisi recriwtio’r cwmni, mae’n cynnig dyfodol mwy disglair i lawer a allai fod wedi anobeithio am gael gyrfa.