Babcock International Group
Rownd derfynol
Mae tîm o brentisiaid yn chwarae rhan bwysig yn helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beilotiaid ymladd drwy gynnal a chadw awyrennau jet Hawk T2 sy’n hedfan yn RAF Fali ar Ynys Môn. Mae’r rhaglen brentisiaethau lwyddiannus a sefydlwyd gan fusnes hedfanaeth Babcock yn RAF Fali yn 2016 yn enghraifft wych o gydweithio.
Mae’r cwmni’n cydweithio’n agos â’r Awyrlu, BAE Systems, Grŵp Llandrillo Menai, Hyfforddiant Arfon Dwyfor a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i gyflenwi prentisiaethau sydd o fudd i ogledd Cymru.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae 171 o brentisiaid wedi cwblhau eu hyfforddiant yn RAF Fali gyda Babcock, ac mae 29 o weithwyr yn gweithio tuag at brentisiaethau ar hyn o bryd. Mae Grŵp Llandrillo Menai a Hyfforddiant Arfon Dwyfor yn darparu prentisiaethau sy’n amrywio o Beirianneg Awyrofod, Cynnal a Chadw i Wasanaethau Cwsmeriaid, Lefelau 2 i 4.