Michelle Gaskell
Rownd derfynol
Mae Prentisiaeth Uwch wedi helpu Michelle Gaskell i reoli prosiectau er mwyn gwella safonau ansawdd gwyddor fforensig gyda’r potensial o arbed miliynau o bunnoedd i heddluoedd, y GIG ac elusennau.
Mae Michelle, 32, o’r Fenni, yn arbenigwr ansawdd yn y Forensic Capability Network, rhan o bortffolio fforensig Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, lle mae’n rheoli prosiectau i gefnogi’r 43 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr.
Bu'n rheoli prosiect cenedlaethol gan y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn ymwneud â chasglu tystiolaeth gan ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol, gan arbed dros £500,000.
Gwnaeth Michelle Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Prosiectau drwy EAL, wedi'i chyflenwi gan ALS Training a’i darparu gan Heddlu De Cymru, mewn dim ond saith mis.