Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

William Davies

Mae William Davies yn brentis sydd wedi arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr trwy awtomeiddio system cydosod cynnyrch.

Mae William, 20, o Lwydcoed, Aberdâr, yn gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed, sef busnes rhyngwladol sy’n arbenigo mewn systemau gweld yn glir ar gyfer y diwydiant moduro.

Yn ogystal, mae wedi rhoi argraffydd newydd 3D Rapid Prototyping ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau awtonomaidd ac mae wedi gwneud gwelliannau ym meysydd Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant.

Cwblhaodd William Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg) chwe mis yn gynt na'r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd lle’r enillodd ddwy wobr. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.

Roedd Steve Mills, rheolwr gwaith technegol a gwelliant parhaus y cwmni, yn canmol William am ei allu mewn nifer o wahanol feysydd, gan ddweud ei fod eisoes yn gweithio ar lefel peiriannydd gweithgynhyrchu â gradd.