Stevie Williams
Rownd derfynol
Mae Stevie Williams wedi rhoi’r gorau i’w swydd ym myd gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn gwneud prentisiaeth gan anelu at yrfa’i breuddwydion sef dysgu peirianneg.
Cafodd Stevie, 36, o’r Goetre, Port Talbot, swydd fel technegydd a hyfforddwr peirianneg fecanyddol gyda Grŵp Colegau NPTC ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Peirianneg Fecanyddol mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2) a Chymhwyster Cysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ), Lefel 2, chwe mis yn gynnar.
Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth a VRQ Lefel 3 gan fwriadu symud ymlaen i wneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) a Phrentisiaeth Radd yn y dyfodol er mwyn gwireddu ei huchelgais o fod yn ddarlithydd mewn peirianneg.
Pathways Training sy’n darparu’r prentisiaethau a dywed eu hasesydd a’u cynghorydd peirianneg fecanyddol, bod Stevie yn “brentis delfrydol”. Dywed fod ei brwdfrydedd, ei hymroddiad a’i haeddfedrwydd yn dylanwadu ar brentisiaid eraill ac ar fyfyrwyr peirianneg eraill yng Ngrŵp NPTC.