Stephanie Fry
Rownd derfynol
Mae llawer o bobl yn gweld dyslecsia fel rhwystr. Fodd bynnag, mae Stephanie Fry, sy’n diwtor, yn canolbwyntio ar y cyfle y mae’n ei roi iddi i helpu ei dysgwyr i wireddu eu potensial.
A hithau’n rheolwr sgiliau gyda Wales England Care, mae Stephanie, 29, o Gasnewydd, yn rheoli tîm bach o anogwyr sgiliau gan arbenigo mewn cefnogi dysgwyr â dyslecsia, a defnyddio’i phrofiad ei hunan o’r cyflwr i wneud hynny.
Cafodd Stephanie ddiagnosis o ddyslecsia tra oedd yn y coleg, ac aeth ymlaen i ennill gradd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n sôn am ei thaith ddysgu ei hunan er mwyn helpu dysgwyr i ddod dros eu hofn o Fathemateg a Saesneg.
Ymunodd Stephanie â Wales England Care yn 2017 ac mae’n frwd o blaid dysgu. Mae wedi cwblhau cyfres o gymwysterau ac erbyn hyn mae’n gweithio ar Brentisiaeth mewn Arwain a Rheoli.