Neidio i'r prif gynnwy

Enillyd

Sophie Williams

Ar ôl graddio, bwriad Sophie Williams oedd mynd yn athrawes. Yna, gwelodd y lles y mae maethu’n gallu ei wneud i fywydau plant a’u rhieni biolegol, sy’n cael cyfle i roi trefn ar eu bywydau.

Cafodd Sophie brofiad o werth maethu pan ddechreuodd ei mam, Lesley, gymryd plant maeth a gwnaeth hynny iddi benderfynu ceisio bod yn weithiwr cymdeithasol.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes yn adran Faethu Cyngor Rhondda Cynon Taf, cafodd Sophie ei dyrchafu’n swyddog recriwtio rhanbarthol yn ddiweddar. Ei nod yw gwneud Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol. Darparwyd ei phrentisiaeth gan Goleg y Cymoedd.

Dywedodd Sophie:

“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi gael swydd lawn amser, ennill cymwysterau a gweld y llu o wahanol agweddau ar waith cymdeithasol.”