Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Ryan Harris

Beth bynnag y mae’n ei wneud – ysbrydoli peirianwyr y dyfodol neu helpu ei gyflogwr i fod yn fwy effeithlon a chanfod a thrwsio diffygion, mae Ryan Harris yn brentis sydd wedi creu argraff ar bawb.

Mae Ryan, 21, o’r Ddraenen Wen, Pontypridd, yn brentis technegydd datblygu prosesau gyda chwmni byd-eang Renishaw sy’n gweithio ym maes peirianneg fanwl ar eu safle ym Meisgyn, ger Pontyclun.

Yn ystod ei brentisiaeth, mae Ryan wedi arbed miloedd o bunnau i’r cwmni wrth addasu peiriannau i arbed ynni a gwella prosesau archebu a storio nwyddau.

Ar ôl ennill cyfres o gymwysterau peirianyddol trwy Goleg y Cymoedd, yn cynnwys Prentisiaeth mewn Gosod a Chomisiynu, mae Ryan yn gweithio tuag at HNC Mecanyddol Pearson a drefnir gan Goleg Pen-y-bont. 

Ei uchelgais yw ennill gradd er mwyn dod yn beiriannydd datblygu prosesau.