Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Rebecca Strange

O feddwl am ei hangerdd dros ofal plant a’i holl brofiad fel rheolwr meithrinfa, dydi hi ddim yn syndod i neb, heblaw hi ei hunan, bod Rebecca Strange ar y rhestr fer. 

Mae Rebecca sy’n 37 oed ac yn byw yng Nghaerdydd yn ferch ddiymhongar ac meddai:

“Roeddwn i wedi gwirioni – roedd yn hollol annisgwyl. Mae fy rheolwr yn dweud yn aml fy mod i’n gwneud mwy na’r disgwyl ond rwy’n ei weld fel rhan o ‘ngwaith o ddydd i ddydd. Rwy mor falch o fy nysgwyr pan fydda i’n eu gweld nhw’n datblygu.”

Mae Rebecca’n asesydd prentisiaid Gofal Plant, Lefelau 2 i 5, gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8 ac mae’n ymweld â gwahanol feithrinfeydd, gwarchodwyr plant a sefydliadau cyn-ysgol. Bu ganddi ran allweddol yn sefydlu platfform dysgu Moodle ar gyfer y cwmni ac erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r busnes.