Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Matt Redd

Ar ôl treulio dros 20 mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd y diwydiannau creadigol, mae Matt Redd yn deall yn iawn beth yw anghenion hyfforddi pobl sy’n cychwyn ar yrfa yn y busnes.

Ac yntau’n awdur ac yn gynhyrchydd ym myd ffilm a theledu, mae Matt yn hyfforddwr llawrydd ar Brentisiaethau Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda’r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Matt, sy’n rhedeg ei gwmni cynhyrchu ei hunan, Standoff Pictures Ltd:

“Mae prentisiaethau’n fan cychwyn ar gyfer datblygu doniau mewn diwydiant heriol sy’n gallu bod yn eithriadol o gystadleuol.”

Dywedodd Lewis Stephens, cyn-brentis:

“Doedd gen i ddim profiad o gwbl ar y dechrau a nawr mae gen i swydd gyda’r BBC. Matt wnaeth hyn yn bosibl.”